Manylion y Ras ar gyfer Dydd Sadwrn – Ebrill 9fed

Os yr ydych wedi cofrestru i fod yn ran ofewn y ras 6ed Llwybr draw ym Mhortmeirion, dydd Sadwrn yma Ebrill 9fed, 2016, dyma fwy o wybodaeth…

  • Cofrestru ar agor i chi dderbyn eich rhif, a hefyd eich crys t os ydych wedi archebu crys.
  • Cofrestru ar agor 9.30am tan 12.45pm.
  • Parcio am ddim.
  • mynedfa ir pentref trwy dydd.
  • rhedwyr yn cael mynedfa am ddim.
  • ffrindiau, teulu or rhedwyr yn derbyn gostyngiad pris mynedfa ir pentref, oedolion £9, plant £6.

Diolch ichi gyda am gofrestru a diolch am y cymoth.

Gwybodaeth Y Ras 2016 (PDF)

Cofion

6ed Llwybr

COFRESTRU WEDI CAU

2016 6TH Llwybr – COFRESTRU wedi CAU (200 o redwyr)

Diolch ichi gyd am y cefnogaeth

 

Yn gyntaf, fel trefnydd, y peth cyntaf rwyf am wneud ydi diolch ichi gyd am gofrestru i gymeryd rhan yn y 2016 her / ras or 6ed llwybr. cael ei gynnal yn mhentref unigryw Portmeirion.

Mae pobeth yn dechrau a gorffen odan y ‘arch’ ar y sgwar, ger caffi glas, ac yn gweithio ei ffordd i fyny yr allt trwy y pentref lawr am y gwesty ac wedyn ar hyd yr mor a fewn ir Gwyllt ac i fyny i uchelfannau y Gerddi Ysbryd ac yn ol ir pentref, i ddechrau yr ail ‘lap, a wedyn i orffen.

Mi fydd y ras yn gystadleuol i rai, ond yn her bersonol i eraill, ac mi fydd rhaid ir rhedwyr ddewis a penderfynnu y lleoliad i fynd heibio rhedwyr eraill, oherwydd y llwybrau bach a cul sydd ofewn y “Gwyllt’.

Amcan y ras / her ydi i dynnu rhedwyr newydd ir byd rhedag llwybr a hefyd i ail gydio y tan i redwyr sydd angen y hwb i ddechrau nol.

Mi fydd yna newyddion diweddarf ar gael drwy facebook a hefyd twitter (@6thtrail).

Edrych mlaen i weld chi ym Mhortmeirion a diolch I griw y pentref, staff am gydweithio efo ni ar y digwyddiad yma. Gan gynnwys yr holl noddwyr a partneriaid eraill e.g Run Coed y Brenin, Halen Mon, Jones o Gymru Creision ac yn y blaen

Ofewn y dyddiau nesaf mi fydd y tim yn gyrru pecyn gwybodateh ar gyfer Dydd Sadwrn.

Diolch yn fawr

Stephen Edwards
Trefnydd 6ed Llwybr
(CREAD Cyf.)

Cwrs y Ras ofewn y ‘Gwyllt’

Dyma gynllun o’r ras ofewn y ‘Gwyllt’ i chi astudio. Fel welwch maer map yn dangos 1 cylch o’r ‘Gwyllt’ ond er mwyn ichi gwblhau y ras / her or 6ed Llwybr ym mhortmeirion, mi fydd rhaid i chi redeg 2 gylch or ‘Gwyllt’. Tydi y cwrs ddim yn hawdd……..

Race route

Race route

Diolch / Thank you

Stephen

Cofrestrwch 6ed o Fedi ar gyfer ras 2015

To all runners have shown interest in the new race next year in Portmeirion – 6th trail. On Tuesday, 12th November, 2013, the website will be going LIVE at 12noon and then ONLINE Entries go LIVE at 6pm same day 12th Nov, 2013

The trail run / race will be competitive for some and they will have to choose their time to pass fellow runners, but the main objective of the race / run is to get new runners into trail running, and for new runners to get confident in themselves to compete in runners and aim higher and further in distance

Currently we have a home page on the site www.6thtrail.co.uk and you can leave your email address for future information and newsletter from 6th trail.

Remember 6pm Entries go LIVE, Tuesday 12th November, also remember to book your accommodation

By all means please get in touch if you have any questions or look at the updates on twitter (@6thtrail) and facebook pages

Looking forward to see you all in Portmeirion in April

Diolch – Thank you

Stephen Edwards
6th Trail Organiser

Stephen Edwards
6th Trail Organiser

Diolch yn fawr

Ond nodyn bach sydyn i ddweud diolch yn fawr iawn i chi gyd am y cefnogaeth ar gyfer y ras rhedeg cyntaf erioed ym Mhortmeirion, dydd Sadwrn yma Ebrill 12fed. Y nifer o redwyr sydd wedi cofrestru ydi 235, syndod, allan or 235 mae yna 165 o ferchaid wedi cofrestru ar gyfer her personol iddyn nhw a hefyd barod i weld be sydd gan y rhedeg llwybr ei gynnig iddyn nhw.

Wrth ir rhedwyr gorfrestru ar fore y ras, rhwng 9.30am – 12.30pm, mi fydd y rhedwyr i gyd yn derbyn ‘band’ garddwn, rhif ar crys t (os maent wedi archebu). Mi fydd y cofrestru draw yn y CWT wrth y maes parcio. Maer ‘band’ garddwn yn cynnig 10% i ffwrdd wrth chi archebu diod neu bwyd draw yn y Town Hall Cafe, neu yn y Spa Portmeirion.

Cychwyn y ras am 1pm, gwybodaeth yn cael ei ddanfon ir rhedwyr.

Lluniau, mapiau, fideo or cwrs i gyd ar safle facebook y ras a hefyd y twitter, @6thtrail

Edrych mlaen i weld chi gyd draw ym Mhortmeirion dydd Sadwrn

Diolch yn Fawr

Stephen Edwards
Trefnydd y Ras

Ymateb Anghygoel – Diolch

Diolch
Yn gyntaf, fel trefnydd, y peth cyntaf rwyf am wneud ydi diolch ichi gyd am gofrestru i gymeryd rhan yn y her / ras or 6ed llwybr ac mae hyn yn golygu dros 150 ohonnoch. Dyma fydd ras rhedag cyntaf erioed i gael ei gynnal yn y pentref unigryw o Bortmeirion.

Mi fydd y ras yn gystadleuol i ras on yn her bersonol i eraill, ac mi fydd rhaid ir rhedwyr ddewis a penderfynnu y lleoliad i fynd heibio rhedwyr eraill, oherwydd y llwybrau bach a cul sydd ofewn y “Gwyllt’. Amcan y ras / her ydi i dynnu rhedwyr newydd ir byd rhedag llwybr a hefyd i ail gydio y tan i redwyr sydd angen y hwb i ddechrau nol.

Mae pobeth yn dechrau a gorffen odan y ‘arch’ ar y sgwar, ger caffi glas, ac yn gweithio ei ffordd i fyny yr allt trwy y pentref lawr am y gwesty ac wedyn ar hyd yr mor a fewn ir Gwyllt ac i fyny i uchelfannau y Gerddi Ysbryd ac yn ol ir pentref, i ddechrau yr ail ‘lap, a wedyn i orffen.

Mi fydd yna newyddion diweddarf ar gael drwy facebook a hefyd twitter (@6thtrail).

Edrych mlaen i weld chi ym Mhortmeirion

Diolch yn fawr

Stephen Edwards
Trefnydd 6ed Llwybr
(CREAD Cyf digwyddiadau)