Mynediad

Mae sialens Portmeirion yn digwydd yn, ac o amgylch, Y Gwyllt ym Mhortmeirion ar ddydd Sadwrn, Mawrth 28 2020. Amser wedi newid i gychwyn am 11.30am. Bydd y ras 6km ar hyd y llwybrau yn cychwyn am 11am. Hoffech chi roi eich enw ar gyfer y Sialens? Pam lai? Os gwelwch yn dda, cliciwch ar y botwm ‘Mynediad’ ac fe gewch eich ail-gyfeirio i’r ddalen rhoi eich enw ar-lein. Cofretsru ar agor Rhagfyr 16eg 2019  am nifer cyfiyngedig. Mi fydd yr holl rhedwyr wnaeth gofrestru ar gyfer ras eleni 2019 yn cael ei cofrestru “defer” i ras 2020. Diolch

Cofrestru ar agor!

https://secure.onreg.com/onreg2/front/step1.php?id=4411

Llefydd i nifer cyfyngedig yn unig

Mae rhoi enw ymlaen llaw ar-lein yn costio £17 i redwyr cyswllt, ac £19 i redwyr anghyswllt (pris yn cynnwys y gost I neud arlein). wedi cadw yr un pris, dim llawer o ddigwyddiadau sydd yn neud hynna.

DIM anifeiliaid ar y cwrs; yn ogystal, ni chaniateir cŵn ym mhentref Portmeirion, heblaw cwn y deillion.

Bydd Gwobrau Perthnasol yn cael eu dyfarnu, yn ogystal â gwobrau arbennig fydd yn cael eu rhoi drwy dynnu rhifau allan o het cyn y prif gyflwyniad.

FAQ 6ed Llwybr

C. Oes ffin amser i’r cwrs?

A.  Nac oes.

C. Ble mae cychwyn a diwedd y ras?

A. Mae’r ras yn cychwyn o dan y bont fwa yng nghanol y pentref ger y caffi glas ac yn gorffen yn yr un lleoliad.

C. Pryd fydda i’n derbyn fy llythyr cadarnhau

A. Bydd pawb sy’n rhoi eu henwau ar-lein yn derbyn ebost yn syth.

C. Ble cynhelir yr Expo?

A. Pencadlys y digwyddiad. Cynhelir y cofrestru yn y Cwt Gwyrdd yn y Maes Parcio wrth ichi gyrraedd, felly gallwch adael eich dillad, ac ati, yn y man cofrestru, neu, o fewn cyrraedd hawdd, yn eich cerbyd. Bydd eich cerbyd o fewn cyrraedd , dim ond ichi roi gwybod i’r staff fynedfa eich bod yn dychwelyd.

C. Ble fyddaf yn casglu fy mhecyn ar gyfer y ras?

A. Bydd pecynnau ar gael wrth gofrestru, a rhoddir cofroddion ar y diwedd. Bydd cofrestru yn digwydd rhwng 0845 a.m. a 10.45 p.m. ddiwrnod y ras.

C. Ydw i wedi cael fy nerbyn?

A. Mae eich e-bost cadarnhaol yn brawf ichi gael eich derbyn i’r ras.

C. Beth fydda i’n ei dderbyn wedi cwblhau’r sialens?

A. Bydd pob rhedwr yn derbyn cofrodd i’w gadw, a bydd lluniaeth ysgafn ar gael ar y diwedd. Bydd cyfle i ennill tlysau perthnasol, a gwobrau penodol fydd yn cael eu penderfynu cyn y prif gyflwyniad.

Q. Ydych chi’n mynd â deunydd rhedwyr o’r dechrau i’r diwedd

A. Nag ydym ond croeso I chi gadw eich bagiau yn y cwt cofrestru.

Mae’r Sialens yn cydymffurfio gyda rheolau Athletau UK

1. Rhaid i redwyr fod yn 18 oed, o leiaf, ar ddiwrnod y ras.

2. Rhaid i’r rhedwyr gychwyn y ras ar yr adeg swyddogol, a rhedeg y cwrs fel y nodwyd ef.

3. Dylai unrhyw redwr sy’n ansicr o’i allu corfforol i redeg y ras geisio cyngor ei feddyg ymlaen llaw.

4. Ni chaniateir unrhyw gymorth, megis ffyn, beiciau, ac ati, ar y cwrs.

5. Ni chnaiateir anifeiliaid ar y cwrs nay n y pentref.

6. Rhaid i bawb sy’n cymryd rhan nodi ei enw, a manylion unrhyw broblem gydag iechyd a meddyginiaeth ar gefn cerdyn rhif y ras, a rhaid gwisgo’r cerdyn, heb ei blygu, mewn man amlwg gydol y ras.

7. Mae 6ed Llwybr yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i unrhyw un sy’n rhoi gwybodaeth anghywir ar ffurflen fynediad, neu beidio gwneud y taliad angenrhediol, neu fethu cyfarfod amodau mynediad mewn unrhyw ffordd.

8. Mae pob cyfrannwr yn cymryd rhan ar ei risg ei hun, a bydd rhaid i bod cyfrannwr arwyddo ei fod/ bod yn ymwrthod ag unrhyw hawliau yn erbyn y ras, a phawb sy’n ymwenud â hi.

9. RHAID i bob cyfrannwr wisgo sglodyn ras er mwyn derbyn amser cyflawni.

10. Trwy gymryd rhan mae pob cyfranogwr yn cadarnhau ei fod / bod yn fodlon y gellir defnyddio eu henwau, ac unrhyw wybodaeth neu luniau a dynnwyd yn ystod y ras er mwyn pwrpas cyhoeddusrwydd.

11. Rhaid i bob cyfranogwr dderbyn, a chytuno, y gellir cadw unrhyw wybodaeth bersonol ( gan gynnwys unrhyw wybodaeth feddygol a roddir ar gerdyn rhif y ras, neu a gesglir gan staff meddygol yn ystod, neu’n dilyn, y digwyddiad), ei ddefnyddio, a’i ryddhau gan 6ed Llwybr mewn cysylltiad â threfnu, hyrwyddo, a gweinyddu’r digwyddiad, neu ar gyfer casglu gwybodaeth ystadegol.

12. Pe digwydd i gyfranogwr gael ei daro’n wael yn ystod, neu’n dilyn, y digwyddiad, a/neu derbyn sylw/ triniaeth feddygol gan staff meddygol y digwyddiad, Ambiwlans Sant Ioan, neu unrhyw feddyg neu ysbyty, rhaid iddo/iddi awdurdodi’r personau hynny i gyflwyno manylion ( gan gynnwys manylion o driniaeth feddygol) i’r Tim Achub Mynydd. / Cymorth Cyntaf, neu unrhyw arall sydd wedi cael caniatad ganddo/ ganddi.

13. Mae Swyddogion y Ras yn cadw’r hawl, ar sail eu barn hwy yn unig, i addasu, ychwanegu at, neu ddileu yr holl Reolau Swyddogol. Bydd pob cyfranogwr yn gaeth i unrhyw addasiad, neu ychwanegiad. i’r Rheolau Swyddogol a gyhoeddir o flaen y ras.

14. Yn ôl rheolau Athletau UK, bydd unrhyw redwr sy’n defnyddio unrrhyw ddyfais ag arno angen clustffonau mewn perygl o gael eu datgymhwyso. Mae hyn oherwydd materion diogelwch.

Bydd methu dilyn y Rheolau Swyddogol hyn, neu addasiadau ohonynt, yn golygu datgymhwyso yn syth, colli unrhyw wobr ariannol, a gorfod gadael cwrs y ras ar unwaith.