Portmeirion

Creuwyd Portmeirion gan y pensaer Clough Williams-Ellis. Prynodd Clough y safle yn 1925 am lai na £5,000. Pryd hynny, fel yr ysgrifennodd Clough, yr oedd “mewn cyflwr difrifol o ddiffyg ymgeledd – wedi’i adael ers talwm gan y rhamantwyr hynny a welodd apêl unigryw a phosibiliadau’r penrhyn prydferth hwn ond a gollodd rheolaeth ar eu tirlunio mawreddog……..a mynd yn fethdalwyr.” Yn ddi-oed, penderfynodd Clough newid ei enw o fod yn Aber Iâ i fod yn Bortmeirion: Port oherwydd ei leoliad ar hyd yr arfordir a Meirion gan mai dyma’r Gymraeg am Merioneth, y sir lle safai o’i mewn.

Codwyd Portmeirion mewn dau gyfnod: rhwng 1925 a 1939 cafodd y safle ei ‘begio’ ac fe godwyd ei adeiladau mwyaf nodedig. Rhwng 1954-76 aeth ati i ychwanegu’r manylion. Yr oedd arddull yr ail gyfnod yn nodweddiadol glasurol neu’n Baladaidd, mewn gwrthgyferbyniad llwyr i arddull Celf a Chrefft ei waith blaenorol. Achubwyd sawl adeilad rhag eu dymchwel, gan arwain at i Clough ddisgrifio’r lle fel “cartref i adeiladau chwâl”.

Heddiw mae Portmeirion yn un o atyniadau pennaf Cymru, gan groeso 250,000 o ymwelwyr y flwyddyn, mae bwytai, amryw o gaffi, gwesty pedair seren a dehongliad o siopau. Gyda parcio am ddim, a teithiau tywys yn rhad ac am ddim, mae yn le perffaith am ddiwrnod gyda’r teulu oll.

Mae 70 acer o goedwig yn o amgylch y pentref gyda llwybrau i’w dilyn. I gyd gyda’i gilydd mae rhyw 19 milltir o lwybrau, sy’n eich danfon i lefydd fel, Fynwent y Cwn, Gardd Ysbrydion, ac yn y blaen.

Ar agor bob dydd o 9.30 y bore tan 7.30 yr hwyr.

Dewch draw ar droed, ar gefn beic, ar y bws, gyda tren neu mewn car. Neu hyd yn oed mewn cwch neu hofrennydd.

Gwelwch lle’r yda ni ar Google Maps

http://www.portmeirion-village.com/cy/ymweld/