Diolch yn fawr

Ond nodyn bach sydyn i ddweud diolch yn fawr iawn i chi gyd am y cefnogaeth ar gyfer y ras rhedeg cyntaf erioed ym Mhortmeirion, dydd Sadwrn yma Ebrill 12fed. Y nifer o redwyr sydd wedi cofrestru ydi 235, syndod, allan or 235 mae yna 165 o ferchaid wedi cofrestru ar gyfer her personol iddyn nhw a hefyd barod i weld be sydd gan y rhedeg llwybr ei gynnig iddyn nhw.

Wrth ir rhedwyr gorfrestru ar fore y ras, rhwng 9.30am – 12.30pm, mi fydd y rhedwyr i gyd yn derbyn ‘band’ garddwn, rhif ar crys t (os maent wedi archebu). Mi fydd y cofrestru draw yn y CWT wrth y maes parcio. Maer ‘band’ garddwn yn cynnig 10% i ffwrdd wrth chi archebu diod neu bwyd draw yn y Town Hall Cafe, neu yn y Spa Portmeirion.

Cychwyn y ras am 1pm, gwybodaeth yn cael ei ddanfon ir rhedwyr.

Lluniau, mapiau, fideo or cwrs i gyd ar safle facebook y ras a hefyd y twitter, @6thtrail

Edrych mlaen i weld chi gyd draw ym Mhortmeirion dydd Sadwrn

Diolch yn Fawr

Stephen Edwards
Trefnydd y Ras