Y 6ed Llwybr 2021

"Dim Trugaredd"

*****NEWYDDION – 2021 RAS 6ed LLWYBR PORTMEIRION WEDI EI CANSLO eto, sori *****

  • 2019 6ed Lwlybr oherwydd y tywydd, storm ar ol storm.
  • 2020 Canslo oherwydd y ‘pandemic’
  • 2021 Canslo oherwydd y sefyllfa yn y wlad ar hyn o bryd ac am y misoedd nesaf

MI FYDDA NI YN OL AR LWYBRAU PORTMEIRION…. peidiwch a poeni. Nol 2022

****************************************************************************************************************

Mae Portmeirion yn bentref poblogaidd gan ymwelwyr yng Ngwynedd, Gogledd Cymru. Cafodd y pentref ei gynllunio a’i adeiladu gan Syr Clough Williams-Ellis rhwng 1925 ac 1975, a hynny yn null pentref Eidalaidd. Mae yn awr yn eiddo i ymddiriedolaeth elusennol.

Mae Portmeirion wedi gweithredu fel lleoliad ar gyfer nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu, yr enwocaf oedd Y Pentref yn y gyfres deledu  “The Prisoner”.

Gan y bydd y ras ar y Sadwrn, rydym, hefyd, yn gobeithio y gall nifer o redwyr a’u teuluoedd aros dros y pethwythnos mewn un o’r lletyai niferus sydd yn yr ardal. Neu pam na rowch anrheg  i chi’ch hun, ac aros ym Mhortmeirion ei hun. Mae cynigion a gostyngiadau ar gael.

Mae lety ym Mhortmeirion ar gael yn…cliciwch yma.